Pam gwirfoddoli
Ni ellir meddwl am chwaraeon heb wirfoddolwyr!!!
Ar hyn o bryd mae dros 6 miliwn o wirfoddolwyr chwaraeon yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynrychioli bron i 15% o’r boblogaeth oedolion. Pe byddai’r bobl hyn yn penderfynu peidio â gwirfoddoli yna byddai chwaraeon cymunedol yn dod i ben.
Mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw cenedlaethau iau yn gwirfoddoli cymaint â’u cyndeidiau. Os yw hyn yn parhau yna bydd clybiau yn dioddef yn y tymor byr a’r hirdymor gan na fydd plant yn gallu mynd i’w holl weithgareddau.
Mae Arwyr Chwaraeon wedi ei sefydlu i greu etifeddiaeth newydd o wirfoddolwyr ifanc!!!!
Felly, pa fanteision sydd i mi??????
Bydd gwirfoddoli o fudd i chi mewn sawl gwahanol ffordd yn bersonol ac yn broffesiynol, dyma rai enghreifftiau:
- Dysgu a datblygu sgiliau newydd
- Datblygu eich CV a gwella cyfleoedd gyrfa
- Cael profiad gwaith gwerthfawr
- Rhyngweithio gydag wynebau newydd a chreu rhwydwaith cymdeithasol
- Dod yn fwy egniol a gwella eich iechyd
- Bod yn rhan o’ch cymdeithas a helpu i’w wneud yn well lle
- Edrych ar ddiddordebau newydd
- Creu synnwyr gwych o gyrhaeddiad
- Sefydlu cysylltiadau rhwydweithio pwysig
- Datblygu hunan barch a hunan hyder
- Teimlo eich bod yn cael eich parchu a’ch gwerthfawrogi
- Treulio amser o ansawdd gyda’ch teulu
Cliciwch yma i ddysgu mwy am ein rhaglen wobrwyo unigryw.
