slide show
slide show
slide show

Hanes Arwyr Chwaraeon

Bydd Llundain 2012 yma mewn dim…….. Mae disgwyliad eang y bydd mwy o bobl ledled y wlad yn cymryd rhan mewn chwaraeon nag erioed o’r blaen, wedi eu hysbrydoli gan y Gemau Olympaidd.

Yr her wy’n wynebu clybiau chwaraeon Conwy yw cael digon o wirfoddolwyr a chefnogaeth i ddygymod â’r cynnydd enfawr yn y bobl newydd sy’n cymryd rhan mewn amrywiol chwaraeon.

Dyna pam bod arnom angen Arwyr Chwaraeon……. Bydd Arwyr Chwaraeon yn genhedlaeth newydd o wirfoddolwyr sy’n cefnogi eu clybiau chwaraeon lleol ac yn cynorthwyo pan fo angen. Gall hyn fod trwy hyfforddi, hyfforddi cynorthwyol, dyfarnu, trefnu neu gynorthwyo yn gyffredinol. Bydd Arwyr Chwaraeon yn helpu i greu etifeddiaeth gwirfoddoli a fydd yn asgwrn cefn i glybiau lleol am flynyddoedd i ddod. Bydd creu’r rhwydwaith gwirfoddoli hwn yn caniatáu i glybiau lleol a’u haelodau i ffynnu a datblygu safonau uwch yng ngoleuni 2012.

Ein nodau a’n hamcanion yw:

  • Denu pobl ifanc 18-25 oed lleol i fod yn Arwyr Chwaraeon
  • Cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n gwirfoddoli
  • Recriwtio, gwobrwyo, cadw a chefnogi Arwyr Chwaraeon
  • Annog datblygiad proffesiynol parhaus
  • Cynorthwyo a chefnogi clybiau i ddatblygu eu Harwyr Chwaraeon
  • Creu llwybr i arweinwyr ifanc ddatblygu
  • Gwella strwythurau’r clybiau
  • Cadw golwg ar wirfoddolwyr presennol

Os hoffech fod yn Arwr Chwaraeon cliciwch ar Cymryd Rhan.