Gwobrwyo
Yn Arwyr Chwaraeon rydym yn deall y gall gwirfoddoli fod yn dasg ddiddiolch! Dyna pam rydym yn fodlon cefnogi ein gwirfoddolwyr ymroddedig trwy eu Datblygiad Personol Parhaus (DPP).
Mae ein cynllun gwobrwyo unigryw wedi ei ddylunio i ysgogi ac annog ein gwirfoddolwyr tra hefyd yn darparu cyfleoedd gwerthfawr iddynt gynyddu a datblygu eu CV hyfforddi.
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein rhaglen bydd angen i chi ymrwymo i nifer penodol o oriau gwirfoddoli a fydd wedi ei amlinellu yn ein cytundeb hyfforddi, ar ôl i chi ymrwymo i’n rhaglen byddwn yn talu’n rhannol neu’n llawn am eich *cymwysterau hyfforddi.
Trwy ein cynllun gwobrwyo gobeithiwn ad-dalu eich ymroddiad ac ar yr un pryd datblygu eich gwybodaeth a’ch gallu i hyfforddi; gan eich rhoi yn y sefyllfa orau i ‘Ddatblygu’r Dyfodol’!
(*Mae arian ar gyfer cymwysterau yn seiliedig ar y cyrsiau sydd ar gael yng Nghonwy neu trwy Adran Datblygu Chwaraeon Prifysgol Bangor ym Maes Glas.)
