Clybiau Chwaraeon
A yw eich clwb chwaraeon yn cael trafferth dod o hyd i wirfoddolwyr newydd?
A ydych eisiau cenhedlaeth newydd o bobl ifanc i wirfoddoli yn eich clwb?
Os mai’r ateb yw ydy neu oes i unrhyw un o’r uchod yna mae Arwyr Chwaraeon yn gynllun a fydd o fudd i’r clwb. Mewn gwirionedd, gall pob clwb yng Nghonwy elwa o fod yn rhan o Arwyr Chwaraeon.
Byddai ymuno â’r cynllun yn golygu y gall eich clwb gael defnydd o Arwr Chwaraeon a fyddai’n helpu i gynorthwyo, cefnogi a datblygu eich clwb mewn unrhyw fodd.
Mae Arwyr Chwaraeon yn gynllun sy’n gweithio ar sail recriwtio gwirfoddolwyr newydd a’u lleoli mewn clybiau chwaraeon cymunedol. Byddai gwirfoddolwyr newydd yn gallu gweld unrhyw glwb sy’n rhan o’r cynllun trwy’r wefan hon, a gallant gysylltu â’r clwb yn uniongyrchol i geisio gwaith fel gwirfoddolwr.
Os ydych yn credu y byddai’ch clwb yn elwa o Arwr Chwaraeon yna cysylltwch â ni ar info@sportingheroes.org.uk
