slide show
slide show
slide show

Arwyr Lleol

Sut ydych yn disgrifio Arwr Chwaraeon??

Mae nifer o Arwyr Chwaraeon sy’n gweithio’n ddiflino yng nghlybiau chwaraeon Conwy. Mae’r Arwyr Chwaraeon hyn yn gwirfoddoli eu hamser mewn nifer o wahanol ffyrdd, ond maent oll yn hynod o ymroddedig i wella eu clwb.

Dyma rai o wir arwyr chwaraeon Conwy:

Bill Darwin

Bu i Bill Darwin sefydlu Clwb Pêl-Droed Merched ym Mae Cinmel Bay. Hyd heddiw mae gan y clwb fwy na 80 o ferched ar eu llyfrau, mewn grwpiau oedran o dan 9 trwodd at oedran agored. Er mwyn arwain y lefelau hyfforddi sydd eu hangen ar gyfer cystadlu, mae Bill wedi mynd o arweinydd pêl-droed i hyfforddwr trwydded ‘C’ mewn cyfnod o dair blynedd, ac yn aros am asesiad ar hyn o bryd ar gyfer ei drwydded ‘B’. Mae llwyddiant ar y cae wedi gweld y clwb yn ennill Cwpan a Tharian Cynghrair Merched Gogledd Cymru ym mhob grŵp oedran ond un. Mae Bill hefyd yn codi arian ar gyfer y clwb, ac mae wedi codi miloedd o bunnoedd dros y blynyddoedd er mwyn datblygu a chynnal pob clwb.

Rita Thomas

Mae Rita Thomas wedi rhoi o’i hamser yn hael iawn i nofio. Am y 40 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn ffigwr ddylanwadol, yn ymwneud â chlwb nofio Bae Colwyn, ble mae’n parhau i arwain sesiynau nofio wythnosol, ac yn gyfrifol am fynd a nofwyr i gystadlaethau. Yn feirniad a dyfarnwr cymwys, mae Rita yn gweithredu yn lleol ac yn genedlaethol ar gyfer Nofio Cymru, yr Urdd a Chlybiau Rhanbarth y Gogledd. Yn 2002 roedd yn Lywydd ASA Gogledd Cymru, yn gyfrifol am annog mwy o bobl ifanc i gymryd diddordeb yn y chwaraeon. Mae Rita yn diweddaru ei chymwysterau yn barhaus i barhau i ymwneud â nofio ar y lefel uchaf posib.

Keith Jones

Mae Keith Jones wedi cyfrannu’n helaeth at Glwb Pêl-droed Glan Conwy. Mae wedi cynorthwyo gyda gwaith cynnal y pafiliwn chwaraeon ac wedi bod yn gyd-reolwr ar y tîm wrth gefn. Fel cadeirydd y clwb pêl-droed iau, mae Keith wedi cynnal sawl cystadleuaeth ar gyfer ieuenctid ar ran y gynghrair iau ac wedi codi arian ar gyfer Cymdeithas Chwaraeon Glan Conwy. Mae Keith hefyd wedi cyfrannu at bêl-droed ar hyd arfordir Gogledd Cymru, gan wasanaethu gyda Chymdeithas Pêl-Droed Arfordir Gogledd Cymru.

Neil Campion

Mae Neil Campion yn hyfforddwr criced ac wedi bod yn hyfforddi am 10 mlynedd. Mae clwb criced Mochdre wedi elwa o ymroddiad Neil i hyfforddi. Roedd yr XI cyntaf yn bencampwyr Ugain 20 yn 2009, a chyrhaeddont y rownd gogynderfynol yng Nghwpan y Byd, bu iddynt fethu a chyrraedd y Brif Adran o un pwynt. Fel uwch hyfforddwr ym Mochdre, mae ganddo gyfrifoldeb am yr 2il a’r 3ydd XI, a hefyd am yr adran iau, gyda thimau o dan 9, o dan 11, o dan 13 ac o dan 15. Yn ogystal â chyfrannu at y clwb yn ystod misoedd yr haf, mae Neil hefyd yn rhedeg y sesiynau rhwyd dan do i’r sgwadiau yn ystod y gaeaf.

Robert Williams a Brett Madden

Mae Robert Williams a Brett Madden yn hyfforddwyr gyda Chlwb Hoci Bae Colwyn. Gyda’i gilydd maent wedi cymryd yr adran iau yn y clwb i’r lefel nesaf. Y ddau yn hyfforddwyr lefel 2, mae Brett a Rob, ynghyd â’u tîm hyfforddi, wedi rhedeg a hyfforddi Canolfannau Datblygu Perfformiad i rai dan 13, dan 15 a dan 17 ar gyfer Undeb Hoci Cymru. Mae’r PDC ym Mae Colwyn yn denu pobl ifanc o ledled Gogledd Orllewin Cymru. Bu i’r PDC ar gyfer rhai dan 13 gystadlu yn erbyn Gogledd Ddwyrain Cymru a Chanolbarth Cymru eleni am y tro cyntaf ac ennill, gyda’r merched a’r bechgyn yn ennill eu gemau. Maent hefyd yn hyfforddi rhai dan 11 yn academi iau Bae Colwyn ac yn rhedeg ac yn dyfarnu cynghrair a chwpan ysgolion cynradd ac uwchradd y clwb. Maent hefyd yn hyfforddi 2il dim y dynion ac X1 1af y merched, yn ogystal â’r hyfforddi cyffredinol gyda’r nos.

Wesley Jones

Mae Wesley Jones, hyfforddwr bocsio, wedi rhedeg clwb bocsio amatur Dyffryn er 2004, mae wedi bod yn ymwneud â bocsio am dros 20 mlynedd. Mae’r clwb gwirfoddol ym Mae Colwyn wedi cael nifer o lwyddiannau gan gynnwys bachgen ysgol yn bencampwr Cymru, aelod hŷn yn rownd derfynol Cymru, tri bachgen ysgol yn rownd derfynol Cymru a dau gynrychiolydd o Gymru mewn cystadleuaeth Brydeinig. Mae Wesley wedi gweithio i godi proffil bocsio amatur yn yr ardal, ac mae ei frwdfrydedd i’r clwb wedi gweld nifer o dwrnameintiau ac arddangosfeydd yn cael eu cynnal yn yr ardal.